1,5,(4b,(8,9,(12,13,14,15))); 1,8,9; 1,9,5; 1,10,(11). RHAN I 1. Angylion doent yn gyson, Rifedi gwlith y wawr, Rhoent eu coronau auraidd O flaen y faingc i lawr; Dadseiniant â'u telynau Ynghyd â'r saint yn un, Fyth, fyth, ni chanant ddigon Am Dduwdod yn y dyn. 2. Ac O! nad allwn innau Yn awr ehedeg fry, A dysgu'r pêr ganiadau Sydd gan y nefol lu; Fel gallai'r nef a'r ddaear Ddyrchafu, yn gytûn, Ryfeddod pob rhyfeddod, Sef Duwdod yn y dyn. 3. Am angeu'r groes bydd canu I dragwyddoldeb maith, Ond im' gael teimlo ei rinwedd 'Rwy bron ar ben fy nhaith; Fy nefoedd yw ei deimlo, A'i deimlo'n union sydd Yn troi pob rhyw tywyllwch O'm mewn yn oleu ddydd. 4a. Yn angau'r groes yn unig Mae'm iachawdwriaeth lawn, Ac am y groes mi ganaf O fore hyd brydnawn: 'Does ond yr aberth hwnnw Wnaed ar Galfaria fryn, A'm crëai oll o newydd, A'm cannai oll yn wyn. 4b.'Rwy'n edrych arnaf f'hunan A rhyw gasineb mawr; Mwy diddim, mwy disylwedd, Na phryfed mân y llawr; 'Does ond yr aberth hwnnw Wnaed ar Galfaria fryn, A'm crëai oll o newydd, A'm cannai oll yn wyn. RHAN II 5. Ni fuasai gennyf obaith Am ddim ond fflammau syth, Y pryf nad yw yn marw, A'r t'wyllwch dudew fyth: Oni buasai'r hwn a hoeliwyd Ar fynydd Calfari, O ryw anfeidrol gariad I gofio am danaf fi. 6. Mi gana' tra b'o anadl, O fewn y ffroenau hyn, Am gariad Iesu'n dioddo' Ar ben Calfaria fryn: Am goron ddrain blethedig, A'r hoelion garwa eu rhyw, I gannu'm henaid euog Fel eira gwynna ei liw. 7. Mi welaf yn ei fywyd, Y ffordd i'r nefoedd fry, Ac yn ei angau'r taliad A roddwyd drosof fi. Yn ei esgyniad gwelaf Drigfanau pur y nef A'r wledd drag'wyddol berffaith, Gaf yno gyd âg ef. 8. Ti, Farnwr byw a meirw Sydd âg allweddau'r bedd, Terfynau eitha'r ddaear Sy'n disgwyl am dy hedd: 'Dyw gras i ti ond gronyn, Mae gras, ar hyn o bryd, Ryw filoedd maith o weithiau I mi yn well na'r byd. 9. O flaen y fainc rhaid sefyll, Ië sefyll cyn bo hir; Nid oes a'm nertha yno Ond dy gyfiawnder pur: Myfi anturia'n eon Trwy ddyfroedd a thrwy dân Heb oleu ac heb lewyrch, Ond dy gyfiawnder glân. 10. O! foroedd o ddoethineb Oedd yn y Duwdod mawr, Pan fu'n cyfrannu ei gariad I dlodion gwael y llawr; A gwneuthur ei drugaredd, A'i faith dosturi 'nghyd, I redeg megis afon Lifeiriol dros y byd. 11. O! gariad heb ei gymar, A dyma'r testun sy Yn llanw holl ganiadau Angylaidd, sanctaidd lu; Anfeidrol ras! Amdano, Pe na foliannai dyn, Clodforai'r bydoedd mudion, Yn ddiau bob yr un. 12. Os ei Di i chwilio 'nghalon, Ni chei Di yno fawr Ond beiau maith mor amled  gwlith y bore wawr; Pechodau o'r dechreuad, Rhai'n awr ac yn y man Sydd yn cytuno â'i gilydd I wasgu'm henaid gwan. 13. Yn natur fy ngweddïau, A'm dyletswyddau mae Rhyw fryniau o anghrediniaeth, Rhyw fôr o lwfwrhau; Y weithred gas a rhyfedd, Yn uchel iawn gan ddyn, Mae torf o lygredd ynddi I weld i mi fy hun. 14. Am hyn bydd imi ymwadu Â'r cwbwl yn gytûn, Bob cylch o ddyletswyddau Oreudeg hardd yn un Yn angau'r groes yn unig Mae'm iachawdwriaeth lawn, Ac am y groes mi gana' O fore hyd brynhawn. 15. Myfi abertha'r cyfan Yn union i dy wa'd, A thyna'r balm oddi wrtho 'R wy'n disgwyl am iachâd; Nid oedd o tan yr heulwen, Nid oedd o tan y ne' Ddim all'sai faddau Pechod Yn unig ond Efe. gyson :: gysson Dadseiniant â'u :: Chwareuent â'u :: A chwarient eu Ond im' gael teimlo ei :: Mae ynddo ddwyfol 'Rwy bron ar ben :: I'm cynal ar Ni fuasai :: Ni f'asai :: Ni buasai gennyf :: genyf Farnwr :: Barnwr nertha :: nerthai dlodion :: bryfaid ei drugaredd :: i'w drugaredd faith dosturi 'nghyd :: dostur maith yn nghyd (Rhyfeddodau Person Crist) 1,2,3,4; 1,2,3,5. Angylion doent yn gyson Rifedi gwlith y wawr; Rhoent eu coronau euraidd O flaen y fainc i lawr; Chwareuent eu telynau Yn nghyd a'r Saint yn un: Byth, byth ni chanant ddigon Am Dduwdod yn y dyn. Cymhwyswyd pabell iddo, Sef corph o lwch y byd; 'Run natur oedd gan Adda A'i feibion' oll i gyd: Gwir ddyn, o sylwedd dyndod, Heb bechod o un rhyw, Ac ynddo yn cartrefu Yr Hollalluog DDUW! Emmanuel - creadur A'r Duwdod mawr yn un, Dysgleirdeb ei ogoniant, Ei ddelw Ef ei Hun: Ordeiniwyd iddo ddoniau, Grasusau o bob rhyw, Fel y pelydrai ynddo Ogoniant person Duw. O! f'enaid gwel addasrwydd Y Person Dwyfol hwn; Ymddiried iddo'th fywyd, A bwrw arno'th bwn: Mae'n ddyn i gydymdeimlo A'th holl wendidau i gyd; Mae'n Dduw i fynnu'r orsedd Ar ddiafol, cnawd, a byd. O foroedd o ddoethineb Oedd yn y Duwdod mawr, Fel hyn gyfranu'i gariad I bryfed gwael y llawr! I wneuthur i'w drugaredd, A'i dostur maith 'nghyd, I redeg megis afon Lifeiriol tros y byd!1762 William Williams 1717-91
Tonau [7676D]:
Tôn [7676D+2676]: gwelir: Bechadur gwel yn hongian Fy Nuw fy addfwyn Iesu Mi ganaf tra fo ana'l Mi welaf yn ei fywyd Ni fuasai gennyf obaith 'Nol edrych ar ol edrych O flaen y fainc rhaid sefyll O foroedd o ddoethineb Pwy ddyry im' falm o Gilead? Ti Farnwr byw a meirw Yn mywyd Iesu gwelaf Ac yna adgyfododd |
Part 1 1. Let angels come constantly, Numerous as dew of the dawn, Let them put their golden crowns Down before the throne; Let them sound their harps Together with the saints as one, Forever, forever, they do not sing enough About Godhead in the man. 2. And oh, that I also may Now fly above, And learn the sweet songs Which are the song of the heavenly host; As could heaven and the earth Raise, in harmony, The wonder of all wonders, That is Godhead in the man. 3. Of the death of the cross will be singing For a vast eternity, But for me to feel its virtue I am almost at the end of my journey; My heaven is to feel it, To to feel is exactly Turning every kind of darkness Within me into the light of day. 4. In the death of the cross alone Is my full salvation, And about the cross I will sing From morning until afternoon; There is nothing but the sacrifice which he Made on the hill of Calvary, Which makes me all new, And which bleaches me all white. 4b. I look upon myself With some great hatred, More nothing, more negligible, Than a small worm of the ground; There is nothing but that sacrifice Made on the hill of Calvary, Which makes me all new, And which bleaches me all white. Part 2 5. I would have had no hope For anything but immediate flames, The worm which does not die, And the darkness forever thickly black, Unless He had been nailed On the mountain of Calvary O what immeasurable love Remembering me. 6. I will sing while ever there is breath, Within these nostrils, Of the love of Jesus suffering On the summit of Calvary hill: Of a crown plaited of thorns, And the nails of the roughest kind, To bleach my guilty soul Like the snow of whitest colour. 7. I see in his life, To way to the heavens above, And in his death the payment That was made on my account. In his ascension I see The pure dwellings of heaven And the perfect, eternal feast, I will have there with him. 8. Thou, Judge of the living and the dead Who hast the keys of the grave, The remotest boundaries of the earth Are waiting for Thy peace. Grace is nothing to Thee but a grain, Grace is, at this point in time, Some many thousands of times Better to me than the world. 9. Before thy bench one must stand, Yes, stand before long; There is nothing which strengthens me there But Thy pure righteousness. As for me, I will venture fearlessly Through waters and through fire Without light and without radiance, But thy clean righteousness. 10. Oh, the oceans of wisdom Which were in the great Godhead When he was sharing out his love To the base poor of the earth; And making his mercy, And all his vast compassion together, Run like a river Flowing across the world. 11. Oh, love without equal! And here is the witness which is Filling all the songs Of the holy, angelic host; Immeasurable grace! About him, If man did not praise, Mute worlds would extol, Endlessly every one. 12. If Thou go to search my heart, Thou wilt not get much there But fast faults as numerous As the dew of the morning dawn; Sins from the beginning, Some now and again Are agreeing with each other To press my weak soul. 13. In the nature of my prayers, And my duties there are Some hills of unbelief, Some sea of losing heart; The deed detestable and wonderful, Very high by man, There is a pile of corruption in it To see me myself. 14. Therefore I shall deny myself Everything altogether, Every round of excellent, Beautiful duties as one; In the cross alone Is my full salvation, And for the cross to bleach me From morning until evening. 15. I shall sacrifice the whole Directly in thy blood, And take the balm from it I am waiting for healing; There is not under the sunshine, There is not under heaven Anything that could forgive sin But Him alone. :: Let them sound their :: Let them play their :: And let them play their But for me to feel its :: In it is divine I am almost at the end of :: To support me on :: :: :: :: strengthens :: would strengthen poor :: worms :: :: (The Wonders of the Person of Christ) Let angels come constantly Numbers as the dew of dawn; Let them put their golden crowns Down before the throne; Let them play their harps Together with the saints as one: Never, ever will they sing enough About Godhead in the man. A tent was made suitable for him That is a body of the dust of the world; The same nature that Adam ha And all his sons altogether: True man, of the substance of humanity, Without sin of any kind, And in him dwelling The Almighty GOD! Emmanuel - creator An the great Godhead as one, The radiance of his glory, His own image Himself: Gifts were ordained for him, Graces of every kind, That in him would radiate The glory of the person of God. O my soul, see the suitability Of this Divine Person; Let thy life trust in him, And cast upon him thy burden: He is man to sympathise With all thy weaknesses altogether; He is God to claim the throne Over devil, flesh and world. O the seas of wisdom That were in the great Godhead, Thus to share his love With a base worm of the ground! To act to show him mercy, And his vast pity altogether, To run like a river Flowing for the world!tr. 2008,16 Richard B Gillion |
Angelic throngs unnumbered, As dawn's bright drops of dew, Present their crowns before Him With praises ever new; But saints and angels blending Their songs above the sun, Can ne'er express the glories Of God with man made one. O boundless sea of wisdom! A Saviour full of grace; To show God's love in mercy To a fallen, dying race, And cause that love and mercy To flow in endless flood, With tenderness and pity, To all the ruined world. (The Glory of Christ) Angelic throngs unnumbered, As dawn's bright drops of dew, Present their crowns before Him With praises ever new; But saints and angels blending Their songs above the sun, Can ne'er express the glories Of God with man made one. O boundless sea of wisdom! A Saviour full of grace; To show God's love in mercy To a fallen, dying race, And cause that love and mercy To flow in endless flood, With tenderness and pity, To all the ruined world.tr. Hymns & Tunes in Welsh & English (E T Griffith) 1884 Tune [7676D]: Wittemburgh (Johann Crüger 1598-1662) |